Gair Amdanom Ni

Mae Gwastraff Organig Dŵr Cymru Cyfyngedig yn darparu canolfan trin gwastraff ddiogel a chost-effeithiol ar gyfer deunydd a gludir mewn tanceri gan gludwyr gwastraff a chynhyrchwyr gwastraff hylifol masnachol a diwydiannol nad yw’n beryglus. Rydym yn trin gwastraff a gludir mewn tanceri ar gyfer rhai sydd heb fynediad i garthffos neu mewn amgylchiadau lle na chaniateir gwaredu i garthffos. Caiff yr holl wastraff o’r tanceri ei arllwys trwy bibellau a gynlluniwyd yn arbennig ac a gaiff eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd er mwyn sicrhau llwybr dibynadwy ar gyfer eich gwastraff.


Mae ein llwybrau triniaeth cost-effeithiol yn cydymffurfio â deddfwriaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd, gan fodloni meini prawf llym o ran iechyd a diogelwch wrth drin eich gwastraff nad yw’n beryglus cyn ei ollwng i’r cwrs dŵr. Caiff ein ffrydiau gwastraff i gyd eu hasesu’n unigol er mwyn sicrhau y gellir cynnig y costau trin mwyaf cystadleuol i chi a sicrhau'r gwasanaethau cwsmeriaid gorau ar yr un pryd.

 

Rydyn ni'n gweithredu dwy ganolfan trin gwastraff hylifol ar gyfer rhanbarth Dŵr Cymru, y naill yn Henffordd a'r llall yng Nghasnewydd. Os oes angen canolfan trin arnoch mewn ardal arall, cysylltwch â'n tîm trwy ffonio 01633 963064 neu anfonwch e-bost atom yn organic.waste@dwrcymru.com.


Canolfan Trin Gwastraff Organig Henffordd

Sewage Disposal Works
Outfall Works Road
Henffordd / Hereford
HR1 1RY

 

Oriau Agor:
Llun-Gwener 8-16:30

 

Ni dderbynnir gwastraff ar y safle ar ôl 16:00. Rhaid i’r holl wastraff gael ei gymeradwyo ymlaen llaw er mwyn ei dderbyn ar y safle.


Canolfan Trin Gwastraff Organig Trefonnen

Yr Adran Garthffosiaeth
Gweithfeydd Trin Trefonnen
Trefonnen
Casnewydd
NP18 2YH

 

Oriau agor:
Dydd Llun-Gwener 8:00-16:00

 

Ni ellir derbyn gwastraff ar y safle ar ôl 15:30. Rhaid i'r holl wastraff gael ei gymeradwyo ymlaen llaw cyn y gellir ei dderbyn ar y safle.


Dod yn Gwsmer

Mae angen caniatâd i arllwys pob gwastraff o danceri cyn y caniateir ffrwd wastraff ar y safle i gael ei thrin. Ffoniwch ni ar 01633 963064 neu ebostiwch ni yn organic.waste@dwrcymru.com er mwyn cael ffurflen i agor cyfrif a ffurflen wybodaeth ragarweiniol am wastraff.